![]() |
![]() |
![]() |
||
4 Mehefin 2024
Cefnogi Wcreiniaid yng Nghymru
Annwyl Naomi
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wrthi’n cynnal ymchwiliad i’r cymorth a ddarperir i ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd y mater hwn ar ôl i adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef Cefnogi Wcreiniaid yng Nghymru, gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.
Fel rhan o’i waith craffu, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd Llywodraeth Cymru i roi tystiolaeth lafar ar ei hymateb i’r argyfwng yn sgil y rhyfel yn Wcráin.
Hoffai’r Pwyllgor wahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel rhanddeiliad, i roi tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad hwn. Yn benodol, hoffai'r Pwyllgor glywed sylwadau’r sefydliad am y canlynol:
§ Gwersi a ddysgwyd yn sgil cynllunio’r ymateb cychwynnol, gan gynnwys amcangyfrifon ynghylch nifer y rhai a fyddai’n cyrraedd, yr opsiynau o ran llety a chostau tebygol yr ymateb.
§ Cymorth parhaus a ddarperir i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru, unrhyw faterion sydd wedi codi, a’r effaith ar elfennau eraill o’r cymorth llety a ddarperir gan awdurdodau lleol.
§ Rôl awdurdodau lleol o ran gweinyddu Canolfannau Cyswllt/Canolfannau Croeso.
§ Barn gyffredinol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr ymateb a’r broses o’i weithredu.
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu unrhyw dystiolaeth y gallwch ei darparu ar y materion hyn ac unrhyw dystiolaeth arall a fyddai, yn eich barn chi, yn berthnasol. Os ydych yn bwriadu darparu tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad hwn, byddem yn gwerthfawrogi cael eich ymateb erbyn 3 Gorffennaf 2024.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y llythyr hwn neu am waith y Pwyllgor yn y maes hwn, anfonwch nhw at y tîm clercio, a fydd yn fwy na pharod i helpu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am drafod unrhyw beth, rhowch wybod i ni.
Yn gywir,

Mark Isherwood
AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.